Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 5
Chwefror 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(45 munud)
(60 munud)
NDM6954 – Rebecca Evans (Gwŷr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn siomedig yn y tanfuddsoddi hanesyddol gan Lywodraeth y DU yn seilwaith rheilffyrdd Cymru a chyfleoedd a gollwyd yn ddiweddar i wella capasiti y seilwaith strategol yng Nghymru.
2. Yn tynnu sylw at y gwaith, sydd wedi’i gyhoeddi, gan yr Athro Mark Barry: ‘Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru – Yr Achos dros Fuddsoddi’ a’r cynigion ynddo i wella y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru a’r prif reilffyrdd sy’n gwasanaethu Cymru.
3. Yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd Llywodraeth y DU sy’n cael ei gynnal gan Keith Williams.
4. Yn credu bod buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd strategol yn hanfodol i ba mor gystadleuol fydd Cymru yn y dyfodol, waeth ar ba delerau y byddwn yn ymadael â’r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu amserlen ar gyfer bodloni ei rhwymedigaethau cyfredol ar gyfer y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws Ewropeaidd, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd Gogledd a De Cymru yn llawn.
Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru – Yr Achos dros Fuddsoddi
Datganiad Ysgrifenedig yn cynnwys ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Rheilffyrdd Llywodraeth y DU
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwellaint 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 1.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwellaint 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 1, dileu 'siomedig yn y' a rhoi yn ei le 'condemnio’r'.
Gwellaint 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1:
', gan gydnabod bod Cymru'n llusgo ar ôl gweddill y DU yn ddifrifol, o ran buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth.'
Gwellaint 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2:
'ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion, gyda phwyslais ar gysylltu'r gogledd a'r de drwy ail-agor rheilffyrdd y gorllewin.'
Gwellaint 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 3.
Gwellaint 6 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth ar ôl 'UE' ym mhwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd:
Yn gresynu at berfformiad gwael diweddar gwasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys oedi mynych a chanslo teithiau, a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru ers dod yn gyfrifol am wasanaethau ar fasnachfraint Cymru a'r Gororau.
Yn gresynu at yr oedi wrth ail-sefydlu gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol rhwng Cymru a Lerpwl.
Yn nodi'r rôl y gall Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ei chwarae wrth helpu i lunio gweledigaeth ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Cymru.
Yn nodi maint y cyfraniad y bydd bargeinion dinas a bargeinion twf Llywodraeth y DU yn eu gwneud.
Yn annog Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a'r holl randdeiliaid perthnasol er mwyn parhau i wneud cynnydd o ran gwella gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.
Gwellaint 7 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd datgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i dulliau adnewyddadwy o bweru trafnidaieth gyhoeddus.
Gwellaint 8 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ffocws o'r newydd gan Lywodraeth Cymru ar weithio tuag at ailagor rheilffordd Gaerwen i Amlwch ar draws Ynys Môn yng ngoleuni cyhoeddiadau economaidd diweddar sy'n peri pryder.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 6 Chwefror 2019